Fersiynau electronig

Nod y llyfr hwn yw trafod anghydraddoldebau cymdeithasol amrywiol o fewn y gymdeithas gyfoes.

Mae rhan gyntaf y llyfr yn canolbwyntio ar gyflwyno sut mae anghydraddoldeb yn cael ei drafod o fewn maes cymdeithaseg, gan ffocysu ar ffactorau allweddol , addysg, ethnigrwydd a rhywedd. Mae’n cwestiynu pam mae rhai unigolion o grwpiau cymdeithasol penodol yn fwy tebygol o brofi anghydraddoldebau o’u cymharu ag unigolion o grwpiau eraill. Mae rhan gyntaf y llyfr yn diffinio a gweithredoli cysyniadau pwysig fel tlodi absoliwt, tlodi cymharol ac allgáau cymdeithasol gan drafod ymchwil sydd yn ehangu ein dealltwriaeth o’r maes cymhleth ac amlhaenog hwn.

Mae ail ran y llyfr yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau amrywiol yng Nghymru yn benodol, gan archwilio rhai ffactorau sy’n dylanwadu ar anghydraddoldeb. Ceir cyflwyniad i ystadegau cyfoes am dlodi ac anghydraddoldebau yng Nghymru, wedi’u seilio ar ddata empirig. Bydd yr enghreifftiau o ymchwil ac ystadegau yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sy’n astudio anghydraddoldeb cymdeithasol fel rhan o’u Lefel A Cymdeithaseg, a hefyd fel cyflwyniad i fyfyrwyr sy’n astudio’r pwnc yn y brifysgol.

Yn ail ran y llyfr, byddwn yn trafod enghreifftiau o ddylanwad oed ar dlodi, anghydraddoldebau rhywedd yn y byd gwaith, sut mae cyfansoddiad y teulu yn aml yn anfanteisiol i ferched, a sut mae rhai aelodau o gymunedau ethnig yn profi anghydraddoldebau yng Nghymru. Er ein bod yn trin a thrafod anghydraddoldebau gwahanol o fewn y llyfr, prif nod y llyfr hwn yw astudio tlodi ac allgáau cymdeithasol. Yn aml, mae cysylltiad rhwng tlodi ac allgáau cymdeithasol, ac mae hyn yn cyfrannu at anghydraddoldeb cymdeithasol mewn meysydd amrywiol megis cyrhaeddiad addysgol, rhywedd ac ethnigrwydd. Yng Nghymru, mae tlodi gwledig a thlodi plant yn nodweddion amlwg yn ein cymunedau, ac yn cael dylanwad mawr ar gyfleoedd ac ansawdd bywyd unigolion.

Allweddeiriau

  • Cymdeithaseg, SOCIOLOGY
Iaith wreiddiolCymraeg
CyhoeddwrColeg Cymraeg Cenedlaethol
Cyfrol4
ISBN (Electronig)978-1-911528-25-8
StatwsCyhoeddwyd - 24 Maw 2023
Gweld graff cysylltiadau