Rhwng Gwrthryfel a Gwacter:Agweddau ar y theatr Gymraeg, 1945-79

Electronic versions

Dogfennau

  • Llio Hughes

    Meysydd ymchwil

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies, theatr, drama

Abstract

CRYNODEBCyfraniad yw'r traethawd hwn at yr ymchwil i gyflwr a datblygiad yddrama a’r theatr Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn benodol yn y cyfnod rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a diwedd y 1970au.Ymhlith y prif weithiau beirniadol diweddar yn y maes, gellir lleoli'r astudiaeth hon yn y canolrhwng cyfrol Ioan Williams, Y Mudiad Drama yngNghymru, 1880-1940, sy'n ymdrin â'r cyfnod hyd at 1940,a chyfrol Roger Owen, Ar wasgar: theatr a chenedligrwydd yn y GymruGymraeg 1979-1997, sy'n ymdrin â'r cyfnod o 1979 ymlaen. Canolbwyntir ar gasgliad dethol o ddramâu llwyfan gan rai o brif ddramodwyr y cyfnod, yn bennaf, sydd oll yn trin a thrafod y themâu o wacter ystyr neu wrthryfel. Bydd yr astudiaeth yn dilyn trefn gronolegol, ac yn canolbwyntio ar y dramâu fesul degawd, cyn cloi trwy edrych ar waithCwmniTheatr Bara Caws a sefyllfa’r theatr Gymraeg wrth arwain at y 1980au. Rhai o’r cwestiynau ymchwil y ceisir eu hateb fydd; sut mae’r dramodwyr yn cyflwyno’r thema o wacter ystyr neu wrthryfelyn eu gwaith; a yw digwyddiadau hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod yn effeithio ar weithiau’r dramodwyr; sut y datblygodd y theatr a’r ddrama Gymraeg yn ystod y cyfnod dan sylwac a oes modd gweld dylanwad gweithiau dramodwyr o Ewrop a thu hwnt ar waith y dramodwyr Cymraeg.Erbyn diwedd yr astudiaeth, sylwir y bu’r cyfnod hwn o 35 mlynedd yn hollbwysig yn hanes y theatr a’r ddrama Gymraeg fodern, ac mai yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd rhai o’r datblygiadau pwysicaf, megis sefydlu’r cwmni theatr cenedlaethol proffesiynol Cymraeg cyntaf ac adeiladu theatrau pwrpasol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y daeth prif ddramodwyr y theatr Gymraeg i’r amlwg, gan gynnwys nifer o’r dramâu sydd bellach yn cael eu hystyried yn rhan o’r canon. Ar drothwy’r 1980au sylwir bod dychweliad at theatr a wreiddiwyd fwy yn ei chymuned.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
  • Gerwyn Wiliams (Goruchwylydd)
Dyddiad dyfarnu11 Tach 2019