Rhwng Gwrthryfel a Gwacter:Agweddau ar y theatr Gymraeg, 1945-79

Electronic versions

Documents

  • Llio Hughes

    Research areas

  • PhD, Ysgol y Gymraeg, theatr, drama, dramodwyr, dramau

Abstract

Cyfraniad yw'r traethawd hwn at yr ymchwil i gyflwr a datblygiad y ddrama a’r theatr Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn benodol yn y cyfnod rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a diwedd y 1970au. Ymhlith y prif weithiau beirniadol diweddar yn y maes, gellir lleoli'r astudiaeth hon yn y canol rhwng cyfrol Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru, 1880-1940, sy'n ymdrin â'r cyfnod hyd at 1940, a chyfrol Roger Owen, Ar wasgar: theatr a chenedligrwydd yn y Gymru Gymraeg 1979-1997, sy'n ymdrin â'r cyfnod o 1979 ymlaen.
Canolbwyntir ar gasgliad dethol o ddramâu llwyfan gan rai o brif ddramodwyr y cyfnod, yn bennaf, sydd oll yn trin a thrafod y themâu o wacter ystyr neu wrthryfel. Bydd yr astudiaeth yn dilyn trefn gronolegol, ac yn canolbwyntio ar y dramâu fesul degawd, cyn cloi trwy edrych ar waith Cwmni Theatr Bara Caws a sefyllfa’r theatr Gymraeg wrth arwain at y 1980au.
Rhai o’r cwestiynau ymchwil y ceisir eu hateb fydd; sut mae’r dramodwyr yn cyflwyno’r thema o wacter ystyr neu wrthryfel yn eu gwaith; a yw digwyddiadau hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod yn effeithio ar weithiau’r dramodwyr; sut y datblygodd y theatr a’r ddrama Gymraeg yn ystod y cyfnod dan sylw ac a oes modd gweld dylanwad gweithiau dramodwyr o Ewrop a thu hwnt ar waith y dramodwyr Cymraeg.
Erbyn diwedd yr astudiaeth, sylwir y bu’r cyfnod hwn o 35 mlynedd yn hollbwysig yn hanes y theatr a’r ddrama Gymraeg fodern, ac mai yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd rhai o’r datblygiadau pwysicaf, megis sefydlu’r cwmni theatr cenedlaethol proffesiynol Cymraeg cyntaf ac adeiladu theatrau pwrpasol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y daeth prif ddramodwyr y theatr Gymraeg i’r amlwg, gan gynnwys nifer o’r dramâu sydd bellach yn cael eu hystyried yn rhan o’r canon. Ar drothwy’r 1980au sylwir bod dychweliad at theatr a wreiddiwyd fwy yn ei chymuned.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
  • Gerwyn Wiliams (Supervisor)
Award date11 Nov 2019