Electronic versions

Documents

Yn ei Gynllun Strategol, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (CDCG, 2016: 5) yn nodi mai un o’i phrif ddyheadau ydy “cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg”. O ymchwil a gomisiynwyd gan CDCG i edrych ar hyder pobl i ddefnyddio eu Cymraeg, gwelwyd bod dyhead cryf gan siaradwyr dihyder i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gymuned, ac i raddau llai yn y cartref ac yn y gwaith. Roedd y dyhead hwn yn gryfach ymysg y grwpiau oedran ieuengaf ac yn uwch yng ngogledd Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn benllanw gwaith a wnaed i CDCG, a oedd yn ymateb i’r gwaith ymchwil a gomisiynwyd ganddi, i ddatblygu prosiect peilot a oedd â’r nod o gynorthwyo siaradwyr dihyder neu anfoddog i ennill yr hyder i ddefnyddio’u Cymraeg. Cynhaliwyd gwaith ymchwil gennym yn ardal Bangor gyda chynulleidfaoedd targed penodol (manylir ar hyn yng nghorff yr adroddiad) gan gynnig cyfres o sesiynau i gymell y cyfranogwyr i ddefnyddio mwy ar eu Cymraeg. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliwyd ymchwil cynradd gyda’r cyfranogwyr trwy gasglu data ansoddol a meintiol, gan fesur unrhyw newid mewn ymddygiad.
Translated title of the contributionDeveloping and designing a Welsh confidence building : Report for Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol by Bangor University
Original languageWelsh
Number of pages121
Publication statusUnpublished - 30 Sept 2019
View graph of relations