Datblygu Cynllun Adeiladu Hyder yn yr Iaith Gymraeg: Adroddiad ar gyfer Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan Brifysgol Bangor
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn
Fersiynau electronig
Dogfennau
- Adroddiad Terfynol (1)
Fersiwn derfynol wedi’i chyhoeddi, 448 KB, dogfen-Word
Yn ei Gynllun Strategol, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (CDCG, 2016: 5) yn nodi mai un o’i phrif ddyheadau ydy “cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg”. O ymchwil a gomisiynwyd gan CDCG i edrych ar hyder pobl i ddefnyddio eu Cymraeg, gwelwyd bod dyhead cryf gan siaradwyr dihyder i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gymuned, ac i raddau llai yn y cartref ac yn y gwaith. Roedd y dyhead hwn yn gryfach ymysg y grwpiau oedran ieuengaf ac yn uwch yng ngogledd Cymru.
Mae’r adroddiad hwn yn benllanw gwaith a wnaed i CDCG, a oedd yn ymateb i’r gwaith ymchwil a gomisiynwyd ganddi, i ddatblygu prosiect peilot a oedd â’r nod o gynorthwyo siaradwyr dihyder neu anfoddog i ennill yr hyder i ddefnyddio’u Cymraeg. Cynhaliwyd gwaith ymchwil gennym yn ardal Bangor gyda chynulleidfaoedd targed penodol (manylir ar hyn yng nghorff yr adroddiad) gan gynnig cyfres o sesiynau i gymell y cyfranogwyr i ddefnyddio mwy ar eu Cymraeg. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliwyd ymchwil cynradd gyda’r cyfranogwyr trwy gasglu data ansoddol a meintiol, gan fesur unrhyw newid mewn ymddygiad.

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Developing and designing a Welsh confidence building : Report for Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol by Bangor University |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Nifer y tudalennau | 121 |
Statws | Heb ei Gyhoeddi - 30 Medi 2019 |
Cyfanswm lawlrlwytho
Nid oes data ar gael