Dwyieithrwydd
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter › peer-review
Standard Standard
Beth yw'r Gymraeg? : What is the Welsh language? . ed. / Angharad Naylor; Llion Pryderi Jones; Dylan Foster Evans. Cardiff: University of Wales Press, Cardiff, 2022. p. 135-149.
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter › peer-review
HarvardHarvard
APA
CBE
MLA
VancouverVancouver
Author
RIS
TY - CHAP
T1 - Dwyieithrwydd
AU - Thomas, Enlli
PY - 2022/11/5
Y1 - 2022/11/5
N2 - Un o sgiliau hynotaf y bod dynol yw ei allu i gyfathrebu drwy iaith. Ymhell cyn ymadael â’r groth, mae’r ymennydd bach yn prysur ddatblygu ac ymateb i’w amgylchedd. Mae’n adnabod patrymau yn iaith y fam ac mae biliynau o niwronau bach gweithgar yn dechrau ar y daith i gaffael iaith. Ac mae hi yn daith. Ond o fewn cwta dair blynedd, gall y plentyn bach gyfleu syniadau, disgrifio gwrthrychau (gwir neu ddychmygol), holi cwestiynau, ac ymateb i iaith unigolion eraill drwy gynhyrchu iaith sydd heb fod yn rhy annhebyg i iaith ei amgylchedd. O gynhyrchu a chyfuno synau, i gynhyrchu a chyfuno geiriau, i fedru cynhyrchu a chyfleu unrhyw syniad, teimlad neu fwriad, mae gallu i greu gwead niwrolegol dwys sy’n ymgorffori patrymau, ffurfiau a synau unigryw a chymhleth iaith yn un o wyrthiau’r ymennydd dynol. Ond yr hyn sy’n fwy gwyrthiol fyth yw bod y rhan fwyaf o blant yn dysgu nid un ond dwy neu fwy o ieithoedd ac felly mae’r ymennydd dynol yn amlach na pheidio yn delio â gwead niwrolegol sy’n fwy cymhleth eto! A dyna yw’r sefyllfa gyfredol ar gyfer unrhyw un sydd yn siarad Cymraeg. Yn ôl data’r Cyfrifiad, mae pob unigolyn tair blwydd oed a hŷn sy’n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg (Cyfrifiad 2011) ac yn aelodau breintiedig o’r byd dwyieithog. Bydd y bennod hon yn trafod agweddau cynnar tuag at ddwyieithrwydd, gan amlinellu natur unigolion dwyieithog a’r nodweddion unigryw sy’n codi yn sgil meddu ar ddwy iaith.
AB - Un o sgiliau hynotaf y bod dynol yw ei allu i gyfathrebu drwy iaith. Ymhell cyn ymadael â’r groth, mae’r ymennydd bach yn prysur ddatblygu ac ymateb i’w amgylchedd. Mae’n adnabod patrymau yn iaith y fam ac mae biliynau o niwronau bach gweithgar yn dechrau ar y daith i gaffael iaith. Ac mae hi yn daith. Ond o fewn cwta dair blynedd, gall y plentyn bach gyfleu syniadau, disgrifio gwrthrychau (gwir neu ddychmygol), holi cwestiynau, ac ymateb i iaith unigolion eraill drwy gynhyrchu iaith sydd heb fod yn rhy annhebyg i iaith ei amgylchedd. O gynhyrchu a chyfuno synau, i gynhyrchu a chyfuno geiriau, i fedru cynhyrchu a chyfleu unrhyw syniad, teimlad neu fwriad, mae gallu i greu gwead niwrolegol dwys sy’n ymgorffori patrymau, ffurfiau a synau unigryw a chymhleth iaith yn un o wyrthiau’r ymennydd dynol. Ond yr hyn sy’n fwy gwyrthiol fyth yw bod y rhan fwyaf o blant yn dysgu nid un ond dwy neu fwy o ieithoedd ac felly mae’r ymennydd dynol yn amlach na pheidio yn delio â gwead niwrolegol sy’n fwy cymhleth eto! A dyna yw’r sefyllfa gyfredol ar gyfer unrhyw un sydd yn siarad Cymraeg. Yn ôl data’r Cyfrifiad, mae pob unigolyn tair blwydd oed a hŷn sy’n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg (Cyfrifiad 2011) ac yn aelodau breintiedig o’r byd dwyieithog. Bydd y bennod hon yn trafod agweddau cynnar tuag at ddwyieithrwydd, gan amlinellu natur unigolion dwyieithog a’r nodweddion unigryw sy’n codi yn sgil meddu ar ddwy iaith.
KW - Cymraeg
KW - Welsh
KW - Dwyieithrwydd
KW - Bilingualism
M3 - Pennod
SN - 9781786839497
SP - 135
EP - 149
BT - Beth yw'r Gymraeg?
A2 - Naylor, Angharad
A2 - Jones, Llion Pryderi
A2 - Foster Evans, Dylan
PB - University of Wales Press, Cardiff
CY - Cardiff
ER -