Dr Mike Beverley

Uwch Ddarlithydd mewn Addysg, Uwch Darlithydd Anrhydeddus

Contact info

Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Wyddorau Addysgol

Aelod o y Sefydliad Cydweithredol ar dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI)

E-bost: m.beverley@bangor.ac.uk
Ffôn: +44(0)1248382467

Trosolwg

Mike yw Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Wyddorau Addysgol

Mae'r aelod sy'n cyfrannu i'r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil i Addysg, Tystiolaeth ac Effaith(CIEREI).

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys:  Dulliau addysgol wedi'u seilio ar dystiolaeth, dysgu manwl, mesur seiliedig ar gwricwlwm, ymateb i ymyriad, cyfarwyddyd darllen, cyfarwyddyd uniongyrchol, cyfarwyddyd effeithiol a chynllunio hyfforddi, perfformiad staff a hyfforddiant rhuglder, hyfforddiant wedi'i seilio ar ruglder, dysgu carlam. 

Manylion Cyswllt

Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Wyddorau Addysgol

Aelod o y Sefydliad Cydweithredol ar dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI)

E-bost: m.beverley@bangor.ac.uk
Ffôn: +44(0)1248382467

Teaching and Supervision (cy)

Proffil Personol

Graddiodd Mike Beverley o Brifysgol John Moores Lerpwl yn 1995 ar ôl astudio yno fel myfyriwr hŷn, ac yn ddiweddarach cwblhaodd ei astudiaethau ôl-radd yma ym Mangor. Bu’n rhan o’r tîm Dulliau Ymchwil ym Mangor er 1996, gan ddysgu myfyrwyr am ystadegau a sut i ddefnyddio’r pecyn meddalwedd SPSS. Mae Mike hefyd yn frwd dros ddysgu’r Gymraeg ac wedi penderfynu dysgu’r iaith i safon fel y gall sgwrsio’n rhwydd â siaradwyr Cymraeg brodorol.

Mae’n mwynhau ei waith gyda brwdfrydedd mawr.

“Ym mha broffesiwn arall allwn i helpu myfyrwyr i ddysgu pethau diddorol (fel ystadegau a Dysgu Manwl); gweithio gyda phlant mewn ysgolion sy’n methu’n academaidd i’w helpu i gau’r bwlch rhyngddynt hwy a’u cyfoedion; a chael cyfle i ddysgu pethau newydd bob dydd (a hynny ar gyflog llawn). Dyna beth yw pleser mewn bywyd – La Dolce Vita.”

Diddordebau Dysgu

Mae Mike yn dysgu modiwlau i bob un o’r tair blynedd o israddedigion ac i fyfyrwyr Meistr. Mae’n Drefnydd Modiwl i’r modiwl ‘Dulliau Ymchwil’ ym Mlwyddyn Un; mae holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn cymryd hwn yn semester dau. Yn ogystal mae’n Drefnydd Modiwl a darlithydd ar fodiwl arbenigol i flwyddyn tri – Dulliau Ymddygiadol Addysg Seiliedig ar Dystiolaeth. Mae’r modiwl hwn yn edrych ar ddulliau addysgu a brofwyd drwy ymchwil ac mae llawer o fyfyrwyr sy’n cymryd y modiwl wedi mynd ymlaen i wneud hyfforddiant pellach i gymhwyso’n athrawon. 

Enillodd y cymhwyster Addysgu mewn Addysg Uwch (tHE) yn 2003 ac mae’n aelod o Academi Cymrodyr Dysgu’r Brifysgol; yn 2009 derbyniodd Gymrodoriaeth Addysgu i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i addysgu a gofal bugeiliol.

Diddordebau Ymchwil

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ei ddiddordebau ymchwil wedi canolbwyntio ar ddefnyddio dadansoddi ymddygiad ym maes addysg ac, yn fwy penodol, defnyddio Dysgu Manwl a Dysgu Uniongyrchol. Mae Mike yn goruchwylio myfyrwyr israddedig a Meistr gyda’u projectau ymchwil ac yn aml cynhelir y projectau hyn mewn ysgolion lleol gyda phlant sy’n methu’n academaidd (e.e. mathemateg, ysgrifennu, sillafu a darllen). Mae wedi cynnal gweithdai hyfforddi mewn Dysgu Manwl ym Mhrydain, Sbaen, Yr Eidal a Norwy ac wedi cyflwyno ei ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol EABG, EABA ac ABAI.

Mae Mike yn aelod o fwrdd golygyddol yr European Journal of Behavior Analysis ac mae hefyd yn olygydd ymgynghorol i’r Journal of Precision Teaching.

Mike ar Twitter: @DrMikeBeverley

Blog wordpress Mike: drmikebeverley.wordpress.com

 

Diddordebau Ymchwil

Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil i Addysg, Tystiolaeth ac Effaith(CIEREI).

Mae CIEREI yn sefydliad cydweithredol, dwyieithog ac aml-ddisgyblaethol i greu tystiolaeth ymchwil gyda'r prif nod o gael effaith gadarnhaol ar ddysgu a lles plant drwy ysgolion.  Mae CIEREI yn bartneriaeth strategol rhwng GwE, Prifysgol Bangor (a arweinir gan yr Ysgolion Addysg a Seicoleg), awdurdodau addysg lleol, ysgolion, Prifysgol Warwick (CEDAR), swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, a budd-ddeiliaid eraill yr ymddiriedwyd iddynt y gwaith o wella canlyniadau addysgol a lles ein plant.  Prif nod CIEREI yw cefnogi gwella canlyniadau i blant drwy ysgolion, a chyfrannu at addysg athrawon ac adeiladu gallu i weithredu’n rhanbarthol drwy ymchwil ar y cyd ac agos at ymarfer.

 

Mae CIEREI hefyd yn ymateb strategol i sicrhau bod Prifysgol Bangor yn rhoi arweiniad cryf i ddatblygu ymchwil ar lefel ryngwladol sy'n goleuo dulliau addysgu ac yn sail i hyfforddiant y genhedlaeth nesaf o athrawon yng Nghymru.   Mae CIEREI yn ymateb strategol ac uchelgeisiol i'r weledigaeth a ddisgrifiwyd gan Yr Athro Donaldson (Llywodraeth Cymru, 2015a) a'r Athro Furlong (Furlong, 2015) yn ymwneud â swyddogaeth prifysgolion a'r newid y bydd angen ei wneud i adeiladu economi addysg wedi'i seilio ar ymchwil yng Nghymru.

 

Yn y tymor canol i'r tymor hir, nod CIEREI yw cyflawni hyn drwy adeiladu cymuned ymchwil fywiog sy'n adeiladu'r sylfaen sy'n bwydo'n uniongyrchol i ymarfer addysgol cyfredol, rhaglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon (HAGA) a datblygiad proffesiynol parhaus athrawon.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod holl athrawon newydd gymhwyso'n deall ymchwil, ymarfer ar sail tystiolaeth orau, a bydd yn helpu i feithrin 'ffordd gwyddonydd-ymarferwr o feddwl' mewn mannau addysgol.  Mae gan CIEREI statws 'Sefydliad' o fewn y system brifysgol oherwydd un o'i brif swyddogaethau fydd dod â grwpiau a chanolfannau presennol sy'n gwneud gwaith ymchwil perthnasol i addysg ynghyd i weithio ar y cyd ac yn strategol gydag GwE ac ysgolion (e.e. Canolfannau Ymyrraeth Gynnal ar Sail Tystiolaeth, Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Canolfan Dyslecsia Miles, Canolfan Dwyieithrwydd, Labordy Llythrennedd Bangor). 

Mae'r aelod sy'n cyfrannu i'r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil i Addysg, Tystiolaeth ac Effaith(CIEREI).

 Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys:  Dulliau addysgol wedi'u seilio ar dystiolaeth, dysgu manwl, mesur seiliedig ar gwricwlwm, ymateb i ymyriad, cyfarwyddyd darllen, cyfarwyddyd uniongyrchol, cyfarwyddyd effeithiol a chynllunio hyfforddi, perfformiad staff a hyfforddiant rhuglder, hyfforddiant wedi'i seilio ar ruglder, dysgu carlam. 

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 2013 - Profesiynol , Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg.
  • 2013 - Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg
  • 2013 - Profesiynol
  • 2013 - PhD , Prifysgol Bangor (2007 - 2012)
  • 2011 - Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg
  • 2009 - Prifysgol Bangor
  • 2003 - Profesiynol , Prifysgol Bangor
  • 2003 - Prifysgol Bangor
  • Profesiynol (2010)
  • BSc (1992 - 1995)

Cyhoeddiadau (38)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (2)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau