Byw yn dda yn hirach: Y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a llesiant pobl hŷn yng Nghymru

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad Comisiwnadolygiad gan gymheiriaid

Comisiynwyd yr adroddiad annibynnol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn edrych ar y dystiolaeth economaidd sy’n gysylltiedig â buddsoddi mewn pobl hŷn sy’n byw yng Nghymru. Fel economegwyr iechyd, rydym yn canolbwyntio ar dystiolaeth sy’n ymwneud â chostau materion economaidd i’r sector cyhoeddus a chymdeithas yn ehangach, ynghyd â’r dystiolaeth ynghylch yr adenillion ar fuddsoddiad neu pa mor gost-effeithiol yw ymyriadau a wneir ar sail tystiolaeth sy’n ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno tystiolaeth gadarn, o’r gymuned ryngwladol a’r Deyrnas Unedig, ynghylch yr adenillion ar fuddsoddiad a pha mor gost-effeithiol yn gymharol yw neilltuo adnoddau’r sector cyhoeddus ar gyfer rhaglenni ac arferion sy’n cefnogi pobl hŷn. Pan fydd hynny’n bosibl, rydym wedi dangos sut y byddai’r dystiolaeth o arbedion posibl o’r ymyriadau yn berthnasol yng nghyd-destun presennol Cymru, gan drosi arian cyfred, rhoi ystyriaeth i chwyddiant a graddio ffigurau (gweler yr adran ar fethodoleg yr adolygiad cyflym a’r gwaith dadansoddi isod). Y nod oedd y byddai ein cynulleidfa’n cynnwys cyrff iechyd cyhoeddus ac asiantaethau eraill yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon; y saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru; llywodraeth leol Cymru a’r trydydd sector. Mae’r sefydliadau hyn i gyd yn cefnogi neu’n cael budd o’r bobl hŷn sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu fe allent wneud hynny yn y dyfodol.

Allweddeiriau

Cyfieithiad o deitl y cyfraniadLiving Well for Longer: Economic argument investing in the health and wellbeing of older people in Wales
Iaith wreiddiolCymraeg
Corff comisiynuPublic Health Wales NHS Trust
Nifer y tudalennau68
StatwsCyhoeddwyd - 30 Gorff 2018
Gweld graff cysylltiadau