Defnyddio'r Gymraeg mewn Cymunedau yn Ynys Mon

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad Comisiwn

Fersiynau electronig

Dogfennau

Ym Mawrth 2022 comisiynwyd Prifysgol Bangor (Hodges a Prys) i gynnal astudiaeth ymchwil ar ran Cyngor Sir Ynys Môn a Menter Iaith Môn i archwilio´r defnydd o’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Diben yr astudiaeth ymchwil oedd ychwanegu at ddealltwriaeth y comisiynwyr o sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn cymunedau ar Ynys Môn.

Lluniwyd y prosiect ymchwil fel rhan o´r elfen ‘Iaith Môn’ o raglen Adfywio Môn drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig i astudio’r cyfleoedd a´r heriau amrywiol a wyneba cymunedau Ynys Môn wrth geisio cynnal ac adfywio’r Gymraeg yn gymunedol. Clustnodwyd amserlen ymchwil o Ebrill i Ragfyr 2022 er mwyn cwblhau’r astudiaeth ymchwil.

Allweddeiriau

  • Cymuned, Cymraeg, Ynys Mon, Cynllunio Ieithyddol
Iaith wreiddiolCymraeg
Nifer y tudalennau85
StatwsCyhoeddwyd - 28 Gorff 2023
Gweld graff cysylltiadau