Defnydd hanesyddol a chyfoes o mynd i yn y Gymraeg: Astudiaeth o ramadegoli fel newid Iaith

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

Electronic versions

Documents

Links

Adnabyddir y defnydd o ferfau symud i gyfleu’r dyfodol yn drawsieithyddol fel enghraifft o ramadegoli (grammaticalization), sef lle bo strwythur yn newid dros amser i fod yn llai diriaethol ac yn fwy gramadegol. Dadansoddir nifer o gorpora hanesyddol a chyfoes o’r Gymraeg mewn modd ansoddol er mwyn adnabod datblygiad trawsamserol o mynd i er mwyn cyfleu’r dyfodol yn yr iaith Gymraeg. Gwelir rhai enghreifftiau o’r ffurf ramadegoledig o mynd i mewn testtunau o’r 16eg a’r 17eg ganrif, gan ddangos bod y broses gramadegoli wedi dechrau o leiaf 500 mlynedd yn ôl, ond nid yw’r strwythur yn dod yn flaenllaw tan yr ugeinfed ganrif. Dadleuir bod hyn yn enghraifft o ddylanwad gramadeg y Saesneg, sydd â’r ymadrodd BE going to sydd hefyd wedi bod drwy broses o ramadegoli hanesyddol, a bod cynnydd mewn dwyieithrwydd yn yr 20fed ganrif yng Nghymru wedi bod yn ffactor yn normaleiddio y ffurf wedi ei ramadegoli. Trafodir sut mae sefyllfa’r strwythur Cymraeg hwn yn datblygu ein gwybodaeth o effaith cyffwrdd iaith ar ramadegoli.

Keywords

Translated title of the contributionHistorical and contemporary use of mynd i ‘go to’ in Welsh: A study of grammaticalization as language change
Original languageWelsh
Pages (from-to)23-39
JournalGwerddon
Volume30
Publication statusPublished - Mar 2020

Total downloads

No data available
View graph of relations